download the Coast Watch poster

Beth yw Gwylwyr Arfordir Cymru?

Mae Gwylwyr Arfordir Cymru yn fenter sydd wedi’i chynllunio i gynyddu diogelwch ar hyd arfordir Cymru a chanfod llongau ac unigolion sydd ynghlwm â gweithgareddau amheus arforol ac arfordirol.

Fe allai gweithgareddau o’r fath fod ynghlwm â smyglo, troseddu cyfundrefnol a therfysgaeth.

Mae Gwylwyr Arfordir Cymru yn gyfuniad o swyddogion ac asiantaethau arbenigol sy’n cynnwys Tollau, Mewnfudo, Heddlu, Gwylwyr y Glannau a’r Llynges Frenhinol. Gall Gwylwyr Arfordir Cymru gael mynediad at wybodaeth yn rhwydd ac ymateb yn unol â hynny.

Bwriad Gwylwyr Arfordir Cymru yw darparu amgylchedd y bydd y bobl sydd ynghlwm â gweithgaredd troseddol ar hyd arfordir Cymru yn ei gweld hi’n anodd gweithredu ynddi. Trwy gyfathrebu a reportio effeithiol bydd y bobl hyn yn cael eu canfod a’u herlyn.

Y bwriad yw aflonyddu ar y bobl sydd ynghlwm â gweithgaredd troseddol drwy gyfathrebu’n effeithiol â’r gymuned arforol ac arfordirol a pharhau i wneud arfordir a dyfrffyrdd Cymru yn amgylchedd diogel i chi gael eu mwynhau.

   OS YDYCH YN AMAU, PEIDIWCH AG OEDI!
rhowch wybod
ANFONWCH NEGES E-BOST ATOM
FFONIWCH YN DDI-ENW AR 0800 555 111
NEU FFONIWCH 999 MEWN ARGYFWNG BOB AMSER