Sut mae Gwylwyr Arfordir Cymru yn gweithio?
Amcan Gwylwyr Arfordir Cymru yw gweithio mewn partneriaeth gyda chymuned eang arforol ac arfordirol Cymru er mwyn canfod unrhyw weithgaredd arforol neu arfordirol amheus neu anghyson.
Mae gan Wylwyr Arfordir Cymru rif ffôn canolog cyfrinachol, gwefan a chyfleuster e-bost sy’n galluogi i aelodau’r cyhoedd reportio unrhyw weithgaredd arforol neu arfordirol amheus bob awr o’r dydd. Nid oes rhaid i chi ddarparu eich manylion.
Wedi derbyn gwybodaeth bydd tîm Gwylwyr Arfordir Cymru yn defnyddio eu hadnoddau ac asedau eang er mwyn ymchwilio i’r’ wybodaeth a dderbyniwyd.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod arfordir a chymunedau Cymru yn saff a diogel.
OS YDYCH YN AMAU, PEIDIWCH AG OEDI!
ANFONWCH NEGES E-BOST ATOM
FFONIWCH YN DDI-ENW AR 0800 555 111
NEU FFONIWCH 999 MEWN ARGYFWNG BOB AMSER

